MANYLION
- Lleoliad: Aberaeron,
- Testun: Cymorth
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Goruchwyliwr Gwersi) - Ysgol Gyfun Aberaeron
Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn ceisio penodi Goruchwyliwr Gwersi brwdfrydig a llawn cymhelliant a fydd yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth o ansawdd uchel i fyfyrwyr yn ystod gwersi pan fydd aelod o staff yn absennol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur iawn, gan ddefnyddio ei fenter ei hun wrth weithio ochr yn ochr â staff a myfyrwyr i sicrhau bod pob gwers o safon uchel. Mae hon yn rôl a fyddai'n gweddu i unigolyn sy'n dymuno cael profiad pellach mewn amgylchedd ysgol fel rhan o'u datblygiad gyrfa.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i weithio'n rhugl yn y Gymraeg.
Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol ddwyieithog gyda lan i 600 o ddisgyblion sy'n cynnwys 6ed dosbarth llwyddiannus. Yn ystod ymweliad diweddaraf Estyn yn 2023, nodwyd bod lles disgyblion yn flaenoriaeth uchel iawn a rhoddir pwyslais cryf ar gefnogi disgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn hapus ac yn ffynnu'n academaidd.'
Am drafodaeth anffurfiol ynglyn â'r swydd, mae croeso ichi gysylltu â Michelle Davies ar 01545 570217
Dyddiad Cyfweld: 27/06/2023
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
Darllen mwy

- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy