MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Medi, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 x 3

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 x 3

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Cae'r Gwenyn

Ffordd y Tywysog Siarl

Wrecsam

LL13 8TH

01978 356177

mailbox@ysgolcaergwenyn.wrexham.sch.uk

Pennaeth - Mrs Rhian Hughes

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 x 3

G04: £14,366 - £14,627 y flwyddyn

Oriau: 30 awr yr wythnos

Swydd dros dro tan 31/08/2024 yn y lle cyntaf

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Dyddiad dechrau: Cyn gynted ag y bo modd

Rydym yn dymuno penodi 3 Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 i ymuno â'n tîm croesawgar yma yn Ysgol Cae'r Gwenyn. Byddem wrth ein boddau yn eich cael yn gweithio ochr yn ochr gyda'n tîm o staff cyfeillgar sy'n gweithio'n galed. Rydym eisiau ymarferwyr profiadol gyda llawer o egni a brwdfrydedd, ac sy'n hwyliog! Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn helpu i hwyluso dysgu o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth.

Mae Ysgol Cae'r Gwenyn yn ysgol ar gyfer plant ifanc, nifer ohonynt gydag anghenion dysgu ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Pennaeth yn Mailbox@ysgolcaergwenyn.wrexham.sch.uk

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

Mailbox@ysgolcaergwenyn.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad Cau: 15/09/2023