MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Testun: Llinynnau Peripatetig Cerddoriaeth Tuto
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtor Cerdd

Tiwtor Cerdd

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tiwtor Cerdd
Disgrifiad swydd
Mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn awyddus i recriwtio athro offerynnau taro rhan-amser ar gyfer Medi 2023. Bydd gofyn i'r athro ddarparu gwersi offerynnau taro mewn ysgolion ledled ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dylai ymgeiswyr fod â chymwysterau addas a meddu ar brofiad diweddar o addysgu gwersi unigol a grwpiau bach ar draws pob ystod oedran.

Mae'r gallu i deithio o amgylch ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili yn hanfodol.

Dylai ymgeiswyr fod â chymwysterau addas i safon uchel yn eu hofferyn dewisol a bod â phrofiad gwaith perthnasol

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Julie Walker ar 07701020216 neu ebost: walkej@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.