MANYLION
- Lleoliad: Various locations in the Borough,
- Testun: Cymorth
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Gofal Plant (18 awr)
Disgrifiad swydd
Mae cyfle newydd, cyffrous wedi codi o fewn ein gwasanaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg bywiog ac o ansawdd uchel, ar gyfer dau Gynorthwyydd Gofal Plant newydd. Bydd y swyddi yn gontractau tymor penodol o 18 awr tan 31 Mawrth 2025 gyda'r potensial i ymestyn yn amodol ar gyllid parhaus Dechrau'n Deg.
Mae angen i ni lenwi'r swyddi hyn cyn gynted â phosibl i gadw at ganllawiau Dechrau'n Deg, Rheoliadau Gofal Plant a Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru. Bydd yn ofynnol i ddeiliaid y swyddi gynorthwyo gweithrediad dyddiol lleoliad gofal plant a bod yn rhan o dîm staff gofal plant. Bydd y Cynorthwywyr yn cael eu lleoli, yn bennaf, yn un o'n lleoliadau ni, fodd bynnag, oherwydd natur y swydd mae’n bosibl y bydd gofyn i ddeiliaid y swyddi gynorthwyo lleoliadau Dechrau'n Deg eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.
Bydd y Cynorthwywyr Gofal Plant yn gyfrifol am gynorthwyo tîm er mwyn darparu gofal plant o ansawdd uchel; sefydlu perthnasau effeithiol gyda rhieni/gofalwyr a phlant; cynorthwyo gwaith monitro a gwerthuso'r rhaglen; gweithio gyda'r tîm i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol a safonau ar gyfer darpariaeth gofal plant gofrestredig; cynorthwyo amgylchedd cynhwysol a pharchus; cynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol ac sy'n dod i'r amlwg; a gweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i gyflwyno'r rhaglen yn ddi-dor.
Mae'n ofynnol i'r Cynorthwywyr fod yn gymwys i Lefel 2 (cyfradd cyflog 4) neu Lefel 3 (cyfradd cyflog 5) yn y cymhwyster perthnasol. Bydd deiliaid y swyddi hefyd yn gyfarwydd â Chanllawiau Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Plant o Ansawdd Da.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Fiona Santos ar 07810438505 neu ebost: santof@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.