MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Gofal Plant (30 awr)

Cynorthwyydd Gofal Plant (30 awr)

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwyydd Gofal Plant (30 awr)
Disgrifiad swydd
Mae cyfle newydd, cyffrous wedi codi o fewn ein gwasanaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg bywiog, o ansawdd uchel, i Gynorthwyydd Gofal Plant newydd. Bydd y swydd yn gontract tymor penodol, 30 awr, tan 31 Mawrth 2025 gyda'r potensial i'w estyn yn amodol ar gyllid parhaus Dechrau'n Deg.

Mae angen i ni lenwi'r swydd hon cyn gynted â phosibl i gadw at ganllawiau Dechrau'n Deg, Rheoliadau Gofal Plant a Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gynorthwyo gweithrediad dyddiol lleoliad gofal plant a bod yn rhan o dîm staff gofal plant. Bydd y Cynorthwyydd yn cael ei leoli, yn bennaf, yn un o'n lleoliadau, fodd bynnag, oherwydd natur y swydd mae'n bosibl y bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo lleoliadau Dechrau'n Deg eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.

Bydd y Cynorthwyydd Gofal Plant yn gyfrifol am gynorthwyo tîm er mwyn darparu gofal plant o ansawdd uchel; sefydlu perthnasau effeithiol gyda rhieni/gofalwyr a phlant; cynorthwyo gwaith monitro a gwerthuso'r rhaglen; gweithio gyda'r tîm i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol a safonau ar gyfer darpariaeth gofal plant gofrestredig; cynorthwyo amgylchedd cynhwysol a pharchus; cynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol ac sy'n dod i'r amlwg; a gweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i gyflwyno'r rhaglen yn ddi-dor.

Mae'n ofynnol i'r Cynorthwyydd fod yn gymwys i Lefel 2 (cyfradd gyflog 4) neu Lefel 3 (cyfradd gyflog 5) yn y cymhwyster perthnasol. Bydd deiliaid y swydd hefyd yn gyfarwydd â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Plant o Ansawdd Da.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Fiona Santos ar 07810438505 neu ebost: santof@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.