MANYLION
- Lleoliad: Various locations in the Borough,
- Testun: Cymorth
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Arweinydd Gofal Plant - Rhan Amser
Disgrifiad swydd
Mae cyfle newydd cyffrous wedi codi o fewn ein gwasanaeth gofal plant bywiog ac o ansawdd uchel, Dechrau’n Deg, ar gyfer dau Arweinydd Gofal Plant newydd (rhan amser). Bydd y swydd yn gontract tymor penodol o 20 awr hyd at 31 Mawrth 2025, gyda'r potensial i ymestyn yn amodol ar gyllid parhaus Dechrau'n Deg.
Mae angen i ni lenwi'r swyddi hyn cyn gynted â phosibl i gadw at ganllawiau Dechrau'n Deg, Rheoliadau Gofal Plant a Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru. Bydd yn ofynnol i ddeiliaid y swydd oruchwylio gweithrediad dyddiol lleoliad gofal plant a rheoli tîm o staff gofal plant. Bydd yr Arweinwyr wedi’u lleoli’n bennaf yn un o’n lleoliadau ni, fodd bynnag, oherwydd natur y gwasanaeth, efallai y bydd angen i ddeiliaid y swydd gynorthwyo lleoliadau Dechrau’n Deg eraill, sydd wedi’u lleoli ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae'r Arweinwyr Gofal Plant yn gyfrifol am reoli tîm gofal plant er mwyn cyflwyno darpariaeth o ansawdd uchel, cynorthwyo ac annog ymgysylltiad rhieni/gofalwyr a phlant, monitro a gwerthuso cyfraddau presenoldeb a defnydd, sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ofynion a safonau deddfwriaethol ar gyfer darpariaeth gofal plant cofrestredig, sicrhau amgylchedd cynhwysol a pharchus, cynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol a datblygol, a gweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i gyflwyno'r rhaglen yn ddi-dor.
Mae'n ofynnol i'r arweinwyr fod yn gymwys i Lefel 3 gyda 2 flynedd o brofiad ar ôl cymhwyso. Rhaid eu bod bron gorffen cyflawni, neu wedi cyflawni, cymhwyster Dysgu a Datblygu Gofal Plant Lefel 5 ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau (QCF) i gydymffurfio â Chanllawiau Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru. Gweler y Disgrifiad Swydd atodedig am ragor o fanylion ynglŷn â'r rôl.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Mrs Fiona Santos ar 07810438505 neu ebost: santof@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.