MANYLION
  • Lleoliad: Morfa, Llanelli, Llanelli,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Chwarae (Sesiynol)

Gweithiwr Chwarae (Sesiynol)

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Bydd gweithwyr achlysurol yn cael eu talu ar gyfradd o £21,029* pro rata (£10.90 yr awr) *yn cynnwys Atodiad Cyflog Byw

Rydym am benodi unigolyn brwdfrydig a deinamig sy'n frwd dros weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Bydd deiliaid y swyddi'n gweithio yng Nghanolfannau Plant y Morfa, Felin-foel a Llwynhendy. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth chwarae o ran datblygiad plant a'u dymuniad cynhenid i chwilio am gyfleoedd fel rhan o chwarae a dysgu. Fel gweithiwr chwarae byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy'n darparu cyfleoedd i'r holl blant ddarganfod mwy amdanynt hwy eu hunain a'r cymunedau lle mae'n byw. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored, felly dylech fod yn barod i weithio gyda'r elfennau naturiol, dwyno'ch dillad ac yn gyffredinol sicrhau bod y plant yn cael hwyl mewn amgylchedd diogel. Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a threfnu gweithgareddau chwarae a hamdden i blant 0-12 oed a chymryd rhan ynddynt.

Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Eleri Caine 01554 742203 Ejcaine@sirgar.gov.uk

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch Lawrlwythiadau isod i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio i ymgeisio am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: