MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Gofal Iechyd - Nyrs Oedolion / Gofal Oedolion

Darlithydd mewn Gofal Iechyd - Nyrs Oedolion / Gofal Oedolion

Grwp Llandrillo Menai
Byddem yn croesawu ymgeiswyr ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i ymuno â thîm hynod lwyddiannus, ac sy'n ehangu, o ddarlithwyr â chymwysterau clinigol yn y rhwydwaith colegau mwyaf yng Nghymru. Mae'r adran iechyd a gofal yn darparu hyfforddiant clinigol ac addysg uwch hyd at lefel 4 ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd, yn rhanbarth BIPBC, ac mewn rhai cyd-destunau, Cymru gyfan. Os oes gennych awch i hybu addysg a sgiliau'r gweithlu a chael effaith uniongyrchol gadarnhaol yn ar ddatblygiad y rhai sy'n gweithio mewn gofal, byddem yn falch iawn o glywed gennych!

Byddech yn gweithio gyda thîm rhagorol o ddarlithwyr nyrsio a gofal iechyd, ynghyd â staff gwasanaethau cymorth, o'n prif gampws yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys cyfleusterau sgiliau ac efelychu o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys ward ysbyty llawn offer â 7 gwely, technolegau cynorthwyol, ystafell gofal cymunedol/gofal cartref, mannau hyfforddi sgiliau, a mannau darlithio ac astudio eang a modern. Mae'r Ganolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos yn amlwg o fudd, ac yn darparu cyfleusterau gwych i fyfyrwyr Addysg Uwch y Grŵp.

Ar hyn o bryd mae ein tîm darlithio yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni proffesiynol o ansawdd uchel i gannoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys Rhaglen Ymgartrefu GIG Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (pob maes), yn ogystal ag amrywiaeth o gyrsiau sgiliau clinigol i ddiwallu anghenion gofal sylfaenol. Mae'r rhain yn rhedeg ochr yn ochr â'n Rhaglen Practis Gofal Iechyd lefel 4 flaenllaw sy'n addas i bob maes ac wedi'i mapio ar gyfer dilyniant uniongyrchol i raglenni nyrsio ac Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth (ODP) Lefel 5.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/241/23

Cyflog
£28,750 - £44,442 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
46 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â Gwyliau'r Banc a Diwnrodau Effeithlonrwydd

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
12 Meh 2023
12:00 YH(Ganol dydd)