MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Rheolwr Datblygu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £44,786 - £46,249
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu - Campws Llwyn y Bryn

Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu - Campws Llwyn y Bryn

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn talentog a brwdfrydig i fod yn rhan o’n campws arobryn a hynod lwyddiannus, Llwyn y Bryn, a leolir yn ardal fywiog Uplands. Mae Llwyn y Bryn yn gampws amrywiol sy’n cynnwys pedwar maes dysgu gwahanol, sef Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Y Celfyddydau Gweledol, Addysg Sylfaenol i Oedolion (ASO) a Pherfformio Cerdd. Hoffem gael ceisiadau gan unigolion â phrofiad mewn rôl arweinyddiaeth neu gydlynu ac sy’n angerddol am ddysgu ac addysgu, arloesedd cwricwlwm a sicrhau bod ein dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn.

Y rôl:

Gweithio gyda Rheolwr y Maes Dysgu gan ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i’r Maes Dysgu a chyfarwyddyd clir i staff gan eu galluogi, eu hysbrydoli, eu cymell a’u cefnogi i ddarparu addysg o’r safon uchaf.

Llawn Amser, 37 awr yr wythnos
Parhaol
Cyflog: £44,786 - £46,249
Llwyn Y Bryn Campws

Cyfrifoldebau Allweddol:

Cynorthwyo i reoli’r Maes Dysgu gan gynnwys cwricwlwm, ansawdd, cyllidebu, lleoli staff, rheoli perfformiad a rheoli dysgwyr.
Cefnogi Rheolwr y Maes Dysgu i sicrhau addysgu, dysgu a chanlyniadau o’r safon uchaf o fewn y Maes Dysgu.
Cefnogi Rheolwr y Maes Dysgu i arddel ymagwedd gyson at reoli dysgwyr.

Amdanoch chi:

Cymhwyster Addysgu Cydnabyddedig (TAR neu’r cyfwerth)
Gradd neu gymhwyster perthnasol cyfwerth
Gwybodaeth o faterion cyfredol sy’n wynebu Colegau AB gan gynnwys datblygiadau cwricwlwm gyda gwerthfawrogiad cadarn o Ddysgu Seiliedig ar Waith
Gwybodaeth o fethodolegau cyllid AB gan gynnwys AU, DSW, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, 14-16.
Gwybodaeth o ddatblygu’r cwricwlwm i wella dilyniant a chyfleoedd cyflogadwyedd e.e. sgiliau hanfodol

Buddion:

37 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23.68% ar gyfartaledd (2023)
Mynediad at driniaethau holistaidd a chyflenwol
Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
Cynllun beicio i’r gwaith
Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff

Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Benefits:

28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.