MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea, Conwy, LL28 4HZ
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,750 - £44,442
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2023 12:00 y.p

This job application date has now expired.

DARLITHYDD MEWN GOFAL IECHYD  –  NYRS IECHYD MEDDWL

DARLITHYDD MEWN GOFAL IECHYD – NYRS IECHYD MEDDWL

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/jobs

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn ddarparwr addysg bellach a sefydlwyd yn dilyn uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Mae'r Grŵp yn cyflogi 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i tua 21,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch ar draws siroedd Môn, Conwy, Dinbych a Gwynedd. Nod strategol y Grŵp yw gwella dyfodol pobl; mae amrywiaeth eang y cyrsiau, ansawdd uchel y profiadau dysgu, y cyfleusterau penigamp a'r staff amryddawn a geir yn y Grŵp i gyd yn cyfrannu tuag at gyflawni'r nodau hyn.

Byddem yn croesawu ymgeiswyr ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i ymuno â thîm hynod lwyddiannus, ac sy'n ehangu, o ddarlithwyr â chymwysterau clinigol yn y rhwydwaith colegau mwyaf yng Nghymru. Mae'r adran iechyd a gofal yn darparu hyfforddiant clinigol ac addysg uwch hyd at lefel 4 ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd, yn rhanbarth BIPBC, ac mewn rhai cyd-destunau, Cymru gyfan. Os oes gennych awch i hybu addysg a sgiliau’r gweithlu a chael effaith uniongyrchol gadarnhaol yn ar ddatblygiad y rhai sy’n gweithio mewn gofal, byddem yn falch iawn o glywed gennych!

Byddech yn gweithio gyda thîm rhagorol o ddarlithwyr nyrsio a gofal iechyd, ynghyd â staff gwasanaethau cymorth, o'n prif gampws yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos. ⁠Mae ein cyfleusterau’n cynnwys cyfleusterau sgiliau ac efelychu o’r radd flaenaf, sy’n cynnwys ward ysbyty llawn offer â 7 gwely, technolegau cynorthwyol, ystafell gofal cymunedol/gofal cartref, mannau hyfforddi sgiliau, a mannau darlithio ac astudio eang a modern. Mae'r Ganolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos yn amlwg o fudd, ac yn darparu cyfleusterau gwych i fyfyrwyr Addysg Uwch y Grŵp.

Ar hyn o bryd mae ein tîm darlithio yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni proffesiynol o ansawdd uchel i gannoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys Rhaglen Ymgartrefu GIG Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (pob maes), yn ogystal ag amrywiaeth o gyrsiau sgiliau clinigol i ddiwallu anghenion gofal sylfaenol. Mae'r rhain yn rhedeg ochr yn ochr â'n Rhaglen Practis Gofal Iechyd lefel 4 flaenllaw sy'n addas i bob maes ac wedi'i mapio ar gyfer dilyniant uniongyrchol i raglenni nyrsio ac Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth (ODP) Lefel 5.

JOB REQUIREMENTS
Gweler isod