MANYLION
  • Lleoliad: Jubilee Court, Swansea, SA5 4HB
  • Testun: Rheolwr Datblygu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £39,508 - £44,274
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Cydlynydd Masnachol

Cydlynydd Masnachol

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Darparu arweiniad, cyfarwyddyd a chefnogaeth i dîm o staff Cyngor ac Arweiniad, Gwasanaeth Cwsmer, Canolfan Manwerthu a Chyswllt gan gydlynu gweithgarwch i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel i ddysgwyr a chyflogwyr.

Amser-Llawn, 37 awr yr wythos
Parhaol
Cyflog £39,508 - £44,274 per annum
Llys Jiwbilî, Abertawe (SA5 4HB)
Cyfrifoldebau Allweddol:

Arwain, ysgogi ac ysbrydoli tîm o Hyfforddwyr, Aseswyr Tiwtoriaid a IV(au), a chynnal cyfarfodydd rheolaidd sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm/pwnc
Cyflawni targedau Dysgu Seiliedig ar Waith (Cymru a Lloegr), Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 a thargedau masnachol a gytunir arnynt gyda’r Rheolwr Llinell
Darparu a chadw llwyth achosion dysgwyr yn unol â chlystyrau’r cwricwlwm
Cynorthwyo gyda’r gwaith o recriwtio, croesawi a goruchwylio staff newydd
Amdanoch chi:

Cymhwyster dysgu ac addysgu e.e. TAR neu’n barod i weithio tuag at y cymhwyster
Gwybodaeth fasnachol, profiad a dealltwriaeth o’r diwydiant, gan gynnwys anghenion hyfforddiant
Gwybodaeth am weithio gyda’r farchnad lafur i nodi a llywio cyfleoedd busnes newydd
Buddion:

28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Parcio am ddim
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).