MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Arweinydd Profiad a Lles Myfyrwyr (Cymraeg yn hanfodol)

Arweinydd Profiad a Lles Myfyrwyr (Cymraeg yn hanfodol)

Coleg Penybont
Arweinydd Profiad a Lles Myfyrwyr (Cymraeg yn hanfodol)

Disgrifiad o'r swydd Arweinydd Profiad a Lles Myfyrwyr (Cymraeg yn hanfodol)
Graddfa gyflog 3/4: £21,740 - £25,818 y flwyddyn (pro rata)
Llawn amser, yn ystod y tymor yn unig (40 wythnos) a pharhaol
Bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar y nifer o wythnosau a weithir yn ystod y flwyddyn academaidd

Pwrpas y Swydd: Hybu a hyrwyddo lles myfyrwyr trwy weithgareddau a digwyddiadau arloesol a diddorol. Sicrhau bod y coleg yn gynhwysol a bod myfyrwyr yn cael profiad sy'n eu galluogi i fod y cyfan y gallant fod. Byddwch yn sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bob myfyriwr ar draws y Coleg ac yn hybu ymgysylltiad myfyrwyr â’r Gymraeg.

Meini prawf hanfodol
  • Siarad Cymraeg yn rhugl.
  • Record brofedig o weithio gyda phobl ifanc mewn grwpiau.
  • Gwybodaeth a phrofiad o gyflwyno gwybodaeth.
  • Gwybodaeth am rwydweithio ag unigolion ac asiantaethau.
  • Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar oedolion ifanc.
  • Gwybodaeth am y rhwystrau wrth gynnig gweithgareddau ymgysylltu myfyrwyr a strategaethau i'w goresgyn.
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth diogelu ac yn meddu ar gymhwyster Diogelu Lefel 1 neu 2 neu’n gweithio tuag ato.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth isod:

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Pam gweithio yng Ngholeg Penybont?

  • Cynlluniau sy’n gyfeillgar i deuluoedd
  • Rhaglen gymorth i gyflogeion ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth llesiant
  • Cyfleusterau rhagorol ar y safleoedd, gan gynnwys siopau coffi
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu
  • 22ain safle ar y rhestr o’r ‘25 Cwmni Mawr Gorau i Weithio iddynt yn y DU’, 8fed yn y categori ‘Cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yng Nghymru’ a 3ydd yn y DU yn y categori ‘Addysg a Hyfforddiant’ (2022)
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus.

Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion, a chofrestriad fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld â phawb sydd ag anabledd os yw eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder, mae’n bosibl y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.