MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Caplan

Swydd-ddisgrifiad Caplan

Graddfa gyflog 5/6: £25,814 - £31,267 y flwyddyn (pro rata)

Rhan amser (22.2 awr), yn ystod y tymor yn unig (40 wythnos) a pharhaol

Cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar 40 wythnos iawn: £13,704 - £16,599


Pwrpas y Swydd: Cydlynu ystod o gefnogaeth fugeiliol, cyfleusterau a gweithgareddau i fyfyrwyr a staff, gan gynnig cefnogaeth aml-ffydd, dim ffydd, ysbrydol a diwylliannol a

chyfleoedd ymgysylltu.

Meini prawf hanfodol

  • Record brofedig o weithio gyda phobl ifanc mewn grwpiau.
  • Gwybodaeth a phrofiad o gyflwyno gwybodaeth.
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth diogelu ac yn meddu ar gymhwyster Diogelu Lefel 2 neu 3 neu’n gweithio tuag ato.
  • Angerdd am a dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Meini prawf dymunol

  • NVQ Lefel 3 a/neu Ddiploma/Cymhwyster mewn Lles/Astudiaethau Cymdeithasol neu Ddiploma mewn Gwaith Ieuenctid, Caplaniaeth neu gymhwyster cyfatebol.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth isod:

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Pam gweithio yng Ngholeg Penybont?

  • Cynlluniau sy’n gyfeillgar i deuluoedd
  • Rhaglen gymorth i gyflogeion ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth llesiant
  • Cyfleusterau rhagorol ar y safleoedd, gan gynnwys siopau coffi
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu
  • 22ain safle ar y rhestr o’r ‘25 Cwmni Mawr Gorau i Weithio iddynt yn y DU’, 8fed yn y categori ‘Cwmnïau Gorau i Weithio iddynt yng Nghymru’ a 3ydd yn y DU yn y categori ‘Addysg a Hyfforddiant’ (2022)
Dyddiad cau: 15/06/2023

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus.

Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion, a chofrestriad fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld â phawb sydd ag anabledd os yw eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder, mae’n bosibl y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.