MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Level 2 - Ysgol Gynradd Penrhyncoch

Cynorthwyydd Addysgu Level 2 - Ysgol Gynradd Penrhyncoch

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i gefnogi dysgwyr y cyfnod Sylfaen, a dysgwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ystod absenoldeb cyfnod mamolaeth ar safle Ysgol Penrhyncoch. Cyfle i ymuno a thîm o staff brwdfrydig a gweithgar sy'n gweithio mewn modd arloesol ar draws Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch.

Swydd dros dro yw hon ar gyfer cyfnod mamolaeth.

Mae'n hanfodol i feddu ar gymwysterau yn ymwneud â datblygiad plant. Byddai profiad blaenorol o weithio yn y Cyfnod Sylfaen yn fanteisiol iawn ynghyd â dealltwriaeth o raglenni cefnogi disgyblion eraill megis TRANDEP, 'Cyfri Ceredigion', 'Y Daith Ddarllen' a 'Dyfal Donc' yn ddymunol iawn. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Rydym yn agored i ystyried cyfuno'r swydd hon gyda swyddi eraill a hysbysebir ar safle'r Ysgol pe bai'r ymgeisydd yn dymuno.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth Miss Catryn Lawrence ar prif@penllwyn.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy