MANYLION
  • Lleoliad: Cardigan,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £35,000.00 - £40,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol - Ysgol Gynradd Aberteifi

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol - Ysgol Gynradd Aberteifi

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Mae Ysgol Gynradd Aberteifi yn dymuno penodi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) llawn cymhelliant a fydd yn rhannu ein gweledigaeth a'n hymrwymiad i sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni ei lawn botensial yn ein hysgol hynod gynhwysol.

Gweledigaeth YGA:

'Cyd dyfu, cyd ddysgu'

'Mae YGA yn ymrwymedig i ddarparu addysg gynhwysol o safon uchel i bob un o'm plant mewn awyrgylch sy'n eu galluogi i lwyddo'.

Amcanion yr Ysgol: Mae YGA yn:
  • Darparu amgylchfyd dysgu diogel, sy'n sbarduno ac yn cefnogi lles emosiynol a chorfforol ein plant i fod yn unigolion iach, hyderus
  • Darparu dechrau da mewn bywyd i bob plentyn, gan weithredu amrywiol strategaethau dysgu sydd â sgiliau fel sylfaen, ac hyrwyddo ymrwymiad i ddysgu
  • Annog ein plant i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol ac i fagu hyder, parch a balchder yn eu hunain ac eraill
  • Darparu profiadau eang i alluogi'r plant i gyfrannu yn hyderus mewn cymuned ddwyieithog, i fod yn ddinasyddion i Gymru a'r byd, trwy feithrin diddordeb tuag at eu diwylliant, treftadaeth, amgylchedd a'r iaith Gymraeg
  • Dathlu cyflawniad y plant a pharhad yn eu cynnydd trwy ddefnyddio technegau asesu effeithiol sy'n symud y dysgu ymlaen ac yn sefydlu safonau uchel
  • Sicrhau fod ein plant yn ganolog i'w dysgu trwy ddatblygu'u gallu i fod yn ddysgwyr annibynnol mewn hinsawdd sy'n eu herio i wireddu eu potensial
  • Datblygu partneriaeth effeithiol gyda rhieni sydd wedi'u selio ar barch, a'u hannog i fod yn gyfranwyr gweithredol yn addysg eu plentyn

Bydd ein CADY yn rhannu ac yn datblygu ein gweledigaeth ar gyfer yr ysgol, yn meddu ar brofiad blaenorol o fod yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol, yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â'r holl rhanddeiliaid ac yn meddu ar y gallu i fod yn arweinydd rhagorol a chynhwysol sydd yn cadw anghenion ein disgyblion yn ganolig i'r holl benderfyniadau a wneir.

Dylai deiliad y swydd:
  • Bod yn athro cynradd rhagorol, gyda hanes profedig, gydag agwedd gadarnhaol a'r disgwyliadau uchaf o gyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion
  • Meddu ar y wybodaeth i hwyluso'r addysgu a'r dysgu o'r ansawdd uchaf
  • Bod a'r gallu i yrru ymlaen datblygiadau ADY yn y cwricwlwm
  • Bod yn gyfathrebwr arbennig a gweithiwr tîm rhagorol gydag ymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth â staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach

Mae gan yr ysgol agwedd gyffrous ac arloesol tuag at addysgu a dysgu ac rydym yn datblygu cwricwlwm creadigol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn barhaus a sydd wedi'i deilwra i ystod eang o anghenion ein plant sy'n dod o ystod amrywiol o gefndiroedd.

Rhaid i chwi feddu ar ymrwymiad i'r safonau uchaf o broffesiynoldeb a'r gallu i'n helpu i ysbrydoli ein disgyblion. Rhaid i chi allu arddangos hyder, creadigrwydd, pendantrwydd, ysgogiad, gwydnwch, y gallu i adfyfyrio a sgiliau gwaith tîm gwych. Yn bwysicaf oll, byddwch yn parhau i adeiladu ar safonau uchel presennol Ysgol Gynradd Aberteifi mewn partneriaeth â'r Pennaeth, y Corff Llywodraethol, staff, disgyblion a rhieni.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Mrs Donna Hanly (Pennaeth) ar 01239 612491.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant