MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 x 2 (Gorwelion Newydd)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

CYNORTHWY-WYR DYSGU YMDDYGIAD / CYFARWYDDYD / CEFNOGAETH - LEFEL 3

G05 £15,645 - £16,222 y flwyddyn

30 awr yr wythnos - yn ystod y Tymor yn Unig (40 wythnos)

2 swydd ar gael

Gwasanaeth atgyfeirio portffolio disgyblion gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ydyn ni, yn darparu addysg i bobl ifanc oed uwchradd gyda gofynion unigol yn ymwneud ag ymddygiad ac iechyd meddwl.

Mae ein tîm o staff yn egnïol, arloesol ac yn canolbwyntio ar ddatrysiadau. Rydym eisiau recriwtio Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 gyda phrofiad o weithio â disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol, a llwyddo i'w cefnogi i ymgysylltu â chyfleoedd addysgiadol sydd ar gael, a chyflawni eu dyheadau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i ddechrau, naill ai yn Stiwdio Hafod neu Stiwdio Pen-y-Cae, sy'n darparu addysg i ddisgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost Darren.lee@wrexham.gov.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.