MANYLION
- Lleoliad: Caerphilly,
- Testun: Cymorth
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Gweithiwr Ymgysylltu â Phobl Ifanc a Theuluoedd
Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gweithiwr Ymgysylltu â Phobl Ifanc a Theuluoedd
Disgrifiad swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer 3 Gweithiwr Pobl Ifanc a Theuluoedd i weithio o fewn y Prosiect Ymgysylltu â Phobl Ifanc a Theuluoedd Targedig.
Mae bob un o'r tri chontract yn cael eu hariannu gan y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, gyda dwy swydd am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2024 ac un swydd yn cyflenwi cyfnod mamolaeth tan 30 Medi 2023.
Mae'r prosiect Ymgysylltu â Phobl Ifanc a Theuluoedd Targedig yn gweithio gyda phobl ifanc a'u teuluoedd i helpu gwella lles drwy eu cynorthwyo i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol sy'n meithrin hyder, ymddiriedaeth a hunan-barch, yn ogystal â datblygu sgiliau personol a chymdeithasol. Mae'n brosiect rhagorol sy'n sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc a'u teuluoedd nhw, gyda chyfoeth o brofiad mewn gwaith ieuenctid a chymorth teuluol.
Mae'r rôl yn golygu darpariaeth uniongyrchol/gwaith wyneb yn wyneb â phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn lleoliadau amrywiol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn ogystal ag ymgymryd â thasgau gweinyddol, cynorthwyo gyda gweithgareddau yn yr awyr agored a gweithio gyda phartneriaid. Mae cludo hefyd yn rhan allweddol o'r rôl ac felly mae'r gallu i yrru yn hanfodol.
Bydd gofyn i ddeiliaid y swydd weithio'n hyblyg a bydd disgwyl iddyn nhw fod ar gael ar gyfer sesiynau rheolaidd gyda'r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol.
Rhaid bod gan ddeiliaid y swydd gymhwyster Lefel 3 Perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft, Gwaith Ieuenctid. Neu ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 6 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru ar ôl cwblhau'r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus. Er enghraifft, mewn Gwaith Ieuenctid, Datblygiad Cymunedol, Blynyddoedd Cynnar, Addysg.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Michelle Harris ar 01443 864622.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.