MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynaerau, Pontllyfni,
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu ADY Lefel 2 (30 awr) (Dros Dro) Ysgol Brynaerau, Pontllyfni

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu ADY Lefel 2 (30 awr) (Dros Dro) Ysgol Brynaerau, Pontllyfni

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG
YSGOLION CYNRADD

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL LEFEL 2 (30 AWR) (DROS DRO)

YSGOL GYNRADD BRYNAERAU
(Cynradd 3 - 11 oed: 63 o ddisgyblion)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 -6 Lefel 2 (sef £15,060 - £15,334 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2.

Yn eisiau: 1 Medi 2023

Cytundeb dros dro yw hon hyd at 31 Awst 2024.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos fel Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu ADY Lefel 2
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o faes anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol ac anawsterau emosiynol ac ymddygiadol yn benodol o fantais, ond nid yw hyn yn amod ar gyfer ymgeisio.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Mrs Glenda Evans. Rhif Ffôn 01286 660 428 e-bost:
Glenda.Evans@brynaerau.ysgoliongwynedd.cymru

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Nia Lloyd Pattinson Swyddog Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704111 e-bost: NiaLloydPattinson@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 9 MEHEFIN 2023.

(This is an advertisement for a Temporary Learning Support Assistant Special Educational Needs Level 2 (30 hours) at Ysgol Brynaerau for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

SAFONAU PROFFESIYNOL CCD.pdf

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.

• Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm.

• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau

• Brwdfrydig a hyblyg

• Personoliaeth Ddigynnwrf

• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Sgiliau rhif/llythrennedd da.

• NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu yn fodlon ymgymryd â'r cwrs yn dilyn penodiad.

DYMUNOL

• Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'

• Hyfforddiant cymorth cyntaf

• Hyfforddiant Amddiffyn Plant

• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd/ rhifedd

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Gweithio gyda phlant o'r oedran priodol neu ofalu amdanynt.

DYMUNOL

• Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant

• Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth

• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

• Deunydd effeithlon o TGaCh

• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da

• Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwyddi'r maes gwaith.( Bydd angen gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.

• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion gyda anghenion dysgu ychwanegol i alluogi mynediad i ddysgu.

• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn

Prif Ddyletswyddau.

• Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.

• Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.

• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.

• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.

• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.

• Sefydlu perthynas dda gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.

• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.

• Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.

• Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.

• Cydweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.

• Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion

• Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.

• Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.

• Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.

• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.

• Cysylltu'n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.

• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.

• Mynychu cyfarfodydd perthnasol.

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y Rheolwr.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.