MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £35,000.00 - £40,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Technoleg - Ysgol Brynrefail

Athro/Athrawes Technoleg - Ysgol Brynrefail

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Ysgol Gyfun 11 - 18: 789 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1 Medi, 2023.

ATHRO / ATHRAWES TECHNOLEG (DROS DRO)

(SWYDD DROS GYFNOD MAMOLAETH)

Swydd dros dro yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr ysgol.

Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i'w gwaith.

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol i ddysgu yn y Gyfadran Technoleg.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£29,278 - £45,085 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth Mr Arwyn Williams, Rhif ffôn: 01286 672381

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan y Rheolwr Busnes a Chyllid, Mr Kevin Wyn Owen, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381;

e-bost: sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 8fed MEHEFIN, 2023.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

(This is an advertisement for the post of a Technology Teacher at Ysgol Brynrefail, Llanrug for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service disclosure and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.)

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.