MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £35,000.00 - £40,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Iechyd a Lles a Phynciau Amrywiol - Ysgol Godre'r Berwyn

Athro/Athrawes Iechyd a Lles a Phynciau Amrywiol - Ysgol Godre'r Berwyn

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG


YSGOLION DILYNOL


YSGOL GODRE'R BERWYN, Y BALA

(Cyfun 3 - 18: 565 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer: 1 Medi 2023 neu Cyn gynted â phosib wedi hynny.

ATHRO/ATHRAWES IECHYD A LLES A PHYNCIAU AMRYWIOL.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i addysgu yn y maes Iechyd a Gofal ynghyd a phynciau eraill.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£29,278 - £45,085) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan y Pennaeth Bethan Emyr Jones, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259) e-bost: pennaeth@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru .Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 5 MEHEFIN 2023.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for a Health and Care Teacher at Ysgol Godre'r Berwyn, Y Bala, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.