MANYLION
  • Lleoliad: Stebonheath CP, Marble Hall Rd, Llanelli, Llanelli,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 Cefnogi a Chyflawni Dysgu- Ysgol Stebonheath

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Swydd dros dro ar gael.

32.50 awr yr wythnos.

Mae Pennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Stebonheath am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 i weithio dan arweiniad yr Athro Dosbarth a'r Arweinydd Cyfnod yn yr ysgol gynnes, gyfeillgar a phoblogaidd hon.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus:

• Cefnogi disgyblion yn y dosbarth a'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

• Sefydlu perthynas waith gynhyrchiol gyda disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.

• Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion gan gynnwys cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiled, bwydo a symudedd.

• Hyrwyddo cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.

• Hyrwyddo annibyniaeth a hunanddibyniaeth.

• Gweithio gyda'r athrawes wrth gynllunio gwersi a chreu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.

• Rhoi adborth llafar a/neu ysgrifenedig i'r athro ar gynnydd a chyflawniad disgyblion yn ôl y gofyn.

• Ar gais, marcio gwaith disgyblion a chofnodi cyflawniad/cynnydd yn gywir.

• Hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol, agweddau ac ymddygiad da disgyblion, delio'n brydlon â gwrthdaro a digwyddiadau yn unol â pholisi sefydledig ac annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Julian Littler - Pennaeth ar 01554758603 / LittlerJ4@hwbcymru.net

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: