MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun:
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,408 - £22,232
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Gweinyddwr Cydymffurfiaeth (Dysgu Seiliedig ar Waith)

Gweinyddwr Cydymffurfiaeth (Dysgu Seiliedig ar Waith)

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Chwarae rôl allweddol yn nhîm Cydymffurfiaeth Contractau gan ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i bartneriaid cyflenwi busnes (Cyfadrannau Colegau ac isgontractwyr), gan hefyd sicrhau cydymffurfiaeth â manylebau contractau DSW yng Nghymru a Lloegr.

14.5 awr yr wythos (2 ddiwrnod yr wythnos)
Parhaol
£8,389 - £8,712 per annum (Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £21,408 - £22,232 per annum)
Llys Jiwbilî, Abertawe, SA5 4HB.

Cyfrifoldebau Allweddol:

Sicrhau y cwblheir a chyflwynir yr holl ddogfennau sy’n gysylltiedig â dysgu seiliedig ar waith mewn modd amserol a chywir trwy gydol cylch bywyd y dysgwr.
Sicrhau cydymffurfiaeth barhaus i gylch bywyd gwaith papur y dysgwr/gweithiwr drwy wiriadau archwilio lefel cyntaf a thrwy fonitro targedau.
Mewnbynnu data i MAYTAS, Aseswr Clyfar, QL, coleg a chronfeydd data allanol er mwyn cynnal cofnod y dysgwr a’r gweithiwr ar gyfer contractau yng Nghymru Lloegr, lle y bo gofyn.

Amdanoch chi:

Gwybodaeth o sefydlu a chynnal systemau gweinyddu manwl.
Sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol.
Profiad gweithredol o TG – gan gynnwys Word, Excel.
Lefel 2 neu’r cyfwerth mewn Gweinyddu Busnes.

Buddion:

28 diwrnod (pro-rata) o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
Parcio am ddim.
Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad.
Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff.
Tanysgrifiad blynyddol am ddim i ap Headspace Mindfulness.
Mynediad at driniaethau holistaidd a chyflenwol.

Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion:
https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £21,408 - £22,232 per annum.

Buddion:

28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.