MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,621 - £44,442
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Tiwtor/Aseswr i Trydanol

Tiwtor/Aseswr i Trydanol

Coleg Gwyr Abertawe
Oes gennych chi brofiad neu hoffech chi ddechrau gyrfa fel tiwtor aseswr mewn trydanol? Os felly, mae cyfle cyffrous i chi yng Ngholeg Gwyr Abertawe.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Diwtor/Aseswr cymwysedig a phrofiadol i ymuno â’r ddarpariaeth trydanol yn ein Maes Dysgu’r Amgylchedd Adeiledig sy'n ehangu.

Gan addysgu ac asesu dysgwyr mewn trydanol, byddwch yn asesu ac yn dilysu portffolios yn fewnol i sicrhau eu bod yn ateb gofynion y gwahanol wirwyr allanol a chyrff dyfarnu. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chwsmeriaid ym myd diwydiant i gynnal a meithrin cysylltiadau.

Bydd gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant gyda chymhwyster Lefel 3 neu’r cyfwerth mewn trydanol neu bwnc cysylltiedig. Bydd gennych brentisiaeth gydnabyddedig mewn trydanol ac yn ddelfrydol byddwch yn meddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig, neu yn gweithio tuag ato, a dyfarniad TAQA/V1.
Mae agwedd broffesiynol a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn hanfodol, ynghyd â’r gallu i ddarparu profiad dysgu ac addysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr.

Bydd gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda’r gallu i weithio’n hyblyg, ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac mae’n disgwyl i bob aelod o staff rannu’r ymrwymiad hwn. Mae penodiadau yn amodol ar wiriad DBS manwl ac mae angen cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Mae hon yn swydd barhaol gyda phecyn buddion deniadol gan gynnwys cynllun pensiwn CPLlL a gwyliau hael.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Buddion:

28 days holiday, plus 5 closure days and 8 bank holidays, Local Government Pension scheme, a range of employee benefits including salary sacrifice schemes, staff discounts and free parking