MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Asesydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,621 - £29,297
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 07 Mehefin , 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Tiwtor/Asesydd - Gweinyddu Busnes

Tiwtor/Asesydd - Gweinyddu Busnes

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Rydym yn chwilio am Hyfforddwr Gweinyddu Busnes proffesiynol a phrofiadol i ddarparu hyfforddiant ac asesiadau o ansawdd uchel i ddysgwyr yn y sector Gweinyddu Busnes e.e Prentisiaid Gweinyddu Busnes, Myfyrwyr Lefel 4 ac ati. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i reoli cyllidebau ac adnoddau, rheoli prosiectau, datrys problemau a rheoli newid. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu hefyd ar wybodaeth ynghylch cyfathrebu busnes, cyfraith busnes ac arloesi busnes. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y wybodaeth ymarferol hon ar eu ffurflenni cais. Byddai meddu ar brofiad o weithio o fewn y sector Gweinyddu Meddygol neu Gyfreithiol yn ddymunol iawn, er mwyn diwallu gofynion ein rhanddeiliaid.

Llawn Amser
Parhaol
Cyflog - £26,621 - £29,297

Cyfrifoldebau Allweddol:

Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.

Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio yn ogystal â bod yn hygyrch i ateb anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr, a bod themâu trawsbynciol (megis ADCDF, Ethos Cymreig, Sgiliau Hanfodol, Cyflogadwyedd) yn cael eu gwreiddio a’u hasesu yn effeithiol.
Cynllunio a chyflwyno hyd at 12 awr o hyfforddfiant yr wythnos i ddysgwyr, yn ôl yr angen (pro rata ar gyfer staff ffracsiynol).
Asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw cofnodion o waith a chyflawniad.

Amdanoch chi:

Cymhwyster Lefel 4 neu’r cyfwerth ewn Gweinyddu Busnes neu Rheoli
Profiad a chymhwysedd galwedigaethol i Aseswch Lefel 1- 4 neu gyfwerth
Lefel 2 (gradd A-C) neu gymhwyster mathemateg a Saesneg cyfwerth.
Hanes o weithio ac addysgu o fewn y sector gweinyddu Busnes neu Rheoli.

Buddion:

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Parcio am ddim
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Benefits:

28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.