MANYLION
  • Lleoliad: Jubilee Court, Swansea, SA5 4HB
  • Testun: Hyfforddwr (Aseswr)
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £16.33 - £18.99
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Hyfforddi a Mentora (10 awr yr wythnos)

Hyfforddwr Hyfforddi a Mentora (10 awr yr wythnos)

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Rhan Amser, 10 awr yr wythos & Parhaol
£16.33 - £18.99 yr awr
Abertawe, SA5 4HB
Cyfrifoldebau Allweddol:

Hyfforddi ac asesu dysgwyr gan gyflwyno safonau uchel o broffesiynoldeb mewn perthynas â sectorau cyflogaeth amrywiol.
Gweithio â chyflogwyr i nodi, cefnogi a gweithredu datrysiadau hyfforddiant i ddiwallu anghenion y sefydliad
Cyflwyno profiad ddysgu di-dor sy’n datblygu unigolion ac yn hwyluso’r broses o wella sgiliau sy’n aml yn benodol i sector benodol, gan ymwneud â rhaglenni QCF NVQ, fframweithiau prentisiaeth, academaidd a phwrpasol.
Gweithio fel rhan o dîm o hyfforddwyr, aseswyr a dilyswyr mewnol i gefnogi a hybu sicrwydd ansawdd ac ardderchowgrwydd, er mwyn bodloni gofynion y cyrff dyfarnu ac ESTYN.
Amdanoch chi:

Cymhwyster lefel 5 mewn disgyblaeth arwain / rheoli
Tystysgrif TAQA neu gymhwyster cyfwerth (neu yn barod i weithio tuag at)
Hanes profedig o weithio mewn rôl arwain a rheoli.
Buddion:

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd (pro-rata), a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Parcio am ddim
Cynllun gweithio Hybrid
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).