MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Cwmfelin - gwasanaethau arlwyo

Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Cwmfelin - gwasanaethau arlwyo

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Cwmfelin - gwasanaethau arlwyo
Disgrifiad swydd
15 awr yr wythnos – tymor yr ysgol yn unig

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd Cynorthwyol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo'r cogydd i baratoi prydau bwyd ysgol. Byddwch yn cynorthwyo wrth hyfforddi a threfnu staff a byddai gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddu cegin yn fantais. 

Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol. 

Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon.  Darperir hyfforddiant os bydd angen.

Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion sydd wedi'u cynllunio i ddenu, datblygu, a gwobrwyo ein gweithwyr – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Dyddiad Cau: 31 Mai 2023

Llunio'r rhestr fer: 5 Mehefin 2023

Cyfweliadau yn yr wythnos sy'n dechrau: 12 Mehefin 2023

Cliciwch yma i gael y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

I wneud cais am y rôl hon cliciwch ‘Gwneud cais ar-lein’