MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria - Deeside,
  • Testun: Peirianneg
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Rhaglen Brentisiaeth (Peirianneg)                 CC/2351

Darlithydd Rhaglen Brentisiaeth (Peirianneg) CC/2351

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Darlithydd Rhaglen Brentisiaeth (Peirianneg)

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £28,751 - £44,442 bydd y cyflog yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad. Mae pwyntiau UP1 yr uwch raddfa gyflog yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r raddfa gyflog uwch.

Rydym yn recriwtio ar gyfer Darlithydd ar gyfer ein Rhaglen Brentisiaeth Peirianneg. Er mwyn cael eich ystyried am y swydd hon, mae’n rhaid i chi fod â phrofiad profedig a chymhwysedd darlithio a bod ag addysg lefel gradd, gyda’r gallu i addysgu Mathemateg Peirianneg. Byddai ymgeiswyr sydd â Chefndir Trydanol yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Fel darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd gofyn i chi ddarparu dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i'n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.

Gofynion Hanfodol
  • Cymwys i Lefel 6/Lefel Gradd o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
  • Gallu addysgu Lefel 3 mewn Mathemateg o leiaf
  • Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg,TAR, C&G 7407)
  • Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol yn ymarferol
  • Sgiliau llythrennedd digidol cymwys
  • Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai