MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Sgiliau Yn arbenigo mewn TGAU Saesneg ar gyfer Prentisiaeth Iau

Darlithydd Sgiliau Yn arbenigo mewn TGAU Saesneg ar gyfer Prentisiaeth Iau

Coleg Penybont
Darlithydd Sgiliau Yn arbenigo mewn TGAU Saesneg ar gyfer Prentisiaeth Iau

Swydd-ddisgrifiad Darlithydd Sgiliau
Yn arbenigo mewn TGAU Saesneg ar gyfer dysgwyr 14-16 Prentisiaeth Iau

Llawn Amser a Pharhaol

Digymhwyster: £22,581 - £26,649 y flwyddyn

Cymwysedig: £28,751 - £44,442 y flwyddyn

Mae gennym gyfle cyffrous i Ddarlithydd Sgiliau llawn amser sy’n arbenigo mewn TGAU Saesneg i ymuno â’n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont.

Pwrpas y Swydd: Cynllunio, datblygu, gwerthuso a chyflwyno rhaglenni dysgu TGAU Saesneg ar gyfer dysgwyr 14 - 16 oed Prentisiaeth Iau a gwerthuso canlyniadau.

Bydd gennych brofiad o ddatblygu a threfnu deunyddiau cysylltiedig â gwaith a phrofiad o gyflwyno TGAU a Saesneg. Dylech hefyd feddu ar dystysgrif TAR (neu fod yn barod i'w chael) ynghyd â gradd berthnasol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol bydd gennych y gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, a bod yn angerddol dros ysgogi pob dysgwr.

Os ydych chi’n credu y gallwch chi gyfrannu at y dysgu a’r addysgu yn y maes yma, hoffem glywed gennych!

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.