MANYLION
  • Lleoliad: Within Ceredigion,
  • Testun: Seicoleg
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £40,000.00 - £45,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Seicolegydd Addysg

Seicolegydd Addysg

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ar Radd A 4 (£44,782).

Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg: Dymunol (Bydd yr Awdurdod yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu'r iaith tra yn y swydd).

Mae Ceredigion yn ardal wledig brydferth gydag arfordir dramatig a chymunedau llawn bwrlwm. Mae'n sir sy'n gyfoethog o ran hanes, diwylliant a chymuned. Mae ysgolion Ceredigion yn anelu at ddarparu'r safonau uchaf o ran addysg ac mae perthynas da iawn rhwng yr ysgolion a gwasanaethau canolog y Sir.

Rydym yn edrych am seicolegydd addysg i ymuno a'n gwasanaeth hapus a brwdfrydig, ac sy'n rhan o dîm ehangach Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Lles. Mae'r gwasanaeth yn uchel ei pharch o fewn Gwasanaethau Ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu amrediad llawn o wasanaethau seicolegol o fewn Sir Ceredigion er mwyn creu newid, codi safonau a sicrhau cynhwysiant addysgol. Rydym yn cyd-weithio'n llwyddiannus gydag ysgolion ac yn gweithredu dull o ganolbwyntio ar ddatrysiad. Rydym yn gweithredu mewn dull ataliol, gyda'r rhyddid i ddefnyddio amrediad o ddulliau seicolegol i wneud gwahaniaeth i ddisgyblion.

Rydym yn croesawi ymgeiswyr sy'n medru dechrau yn syth neu fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 2 o'u doethuriaeth ar hyn o bryd.

Er mwyn cynnal safonau moesegol mae'n hanfodol i'r ymgeisydd fod wedi'i gofrestru, a chynnal cofrestriad parhaus, gyda'r HCPC.

Bydd angen gwiriad manylach y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon.

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Angharad Behnan, Prif Seicolegydd Addysg ar ebost Angharad.Behnan@ceredigion.gov.uk er mwyn trefnu sgwrs ffôn.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.

Mae diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn flaenoriaeth allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn cydnabod bod ganddynt hawl i gael eu gwarchod a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) arnom.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant