MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Cefnogi Dysgu - Ymyrraeth   (Cymhorthydd Addysgu Lefel 3)

Cymhorthydd Addysgu Cefnogi Dysgu - Ymyrraeth (Cymhorthydd Addysgu Lefel 3)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair

Ffordd Lea

Wrecsam

LL13 7NA

Ffôn: 01978 352406

Pennaeth: Mrs R F Acton

Cymhorthydd Addysgu Cefnogi Dysgu - Ymyrraeth

(Cymhorthydd Addysgu Lefel 3)

GO5 £10,650 - £11,042 y flwyddyn

Contract 0.8 - 22 awr yr wythnos (Dros dro am flwyddyn i ddechrau)

I ddechrau ym Medi 2023 (neu'n gynt os yw'n bosib)

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn awyddus i benodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 brwdfrydig sydd â phrofiad addas i ymuno â'n tîm ymroddgar ac arloesol mewn cymuned ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

✔Cefnogi ethos Catholig yr ysgol

✔Hyrwyddo ethos yr ysgol o gynhwysiant a dathlu natur amrywiol ein hysgol

✔Meddu ar brofiad blaenorol o weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a dysgwyr agored i niwed

✔ Gweithio o dan gyfarwyddyd y CADY ac athrawon dosbarth i gyflwyno ymyraethau/rhaglenni addas o gefnogaeth i alluogi bob disgybl yn yr ysgol i wneud cynnydd yn eu lles a'u dysgu

✔Sefydlu perthnasau cefnogol gyda disgyblion, rhieni a staff

✔ Cymryd rhan mewn unrhyw ddatblygiad a hyfforddiant proffesiynol parhaus/ychwanegol i gefnogi anghenion parhaus y swydd

✔Bod yn gyfathrebwr hyderus

✔Gallu gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm effeithiol a gallu defnyddio blaengaredd wrth weithio'n annibynnol

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol. Ffoniwch 01978 352406 i drefnu apwyntiad.

I ymgeisio:

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Neu lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais Gwasanaeth Addysg Gatholig sydd ar gael ar y wefan.

Anfonwch ffurflenni cais a gwybodaeth ategol ar e-bost at Mrs R F Acton (Pennaeth) at mailbox@stmarys-wxm-pri.wrexham.sch.uk

Y BROSES GYFWELD

Bydd y broses gyfweld yn cynnwys arsylwi ar dasg ymyrraeth grŵp bach a thasg weinyddol/TG, yna cyfweliad wyneb yn wyneb.

ARSYLWI AR DASG YMYRRAETH:

• Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu harsylwi'n cyflwyno gweithgaredd ymyrraeth byr i grŵp i ddatblygu hyder, hunan-barch a lles cyffredinol disgyblion (tua 15 munud)

CYFWELIAD

• Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad wyneb yn wyneb

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Mercher 14 Mehefin (12 canol dydd)

LLUNIO RHESTR FER: Dydd Iau, 15 Mehefin

CYFWELIADAU: YR WYTHNOS YN DECHRAU - Dydd Llun 19 Mehefin 2023