MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Crèche Dechrau’n Deg x 2

Goruchwyliwr Crèche Dechrau’n Deg x 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Goruchwyliwr Crèche Dechrau'n Deg

G05 £21,968 - £22,777 pro rata

21 awr yr wythnos (yn ystod y tymor yn unig)

Cyfnod Penodol tan 31/03/2025, 1 x 21 awr yr wythnos

Mae gennym 1 swydd ar gyfer goruchwylwyr crèche Dechrau'n Deg, rhan amser, cyfnod penodol mewn gwahanol leoliadau yn ardal Wrecsam. Mae'r gallu i weithio'n hyblyg a theithio rhwng gwahanol leoliadau ledled Wrecsam yn hanfodol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos agwedd hyblyg; ymdeimlad cryf o waith tîm a lefel uchel o ddealltwriaeth o ddatblygiad plant. Byddai profiad o weithio â rhieni/gofalwyr a phlant ifanc yn fanteisiol.

Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu gofal crèche o safon uchel a byddant yn gyfrifol am drefnu a chyflwyno rhaglen ysgogol ac amrywiol o weithgareddau i blant 4 oed ac iau, o fewn grŵp / neu'n unigol.

Mae angen brwdfrydedd, dealltwriaeth dda o ddatblygiad plant, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu da ar gyfer y swydd hon.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.

Mae teithio rhwng lleoliadau yn rhan hanfodol o'r swydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Vicki Sadowska/Bethan Holman, Rheolwr Cymorth i Deuluoedd a Rhianta, Dechrau'n Deg ar 01978 298300.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.