MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Glanhawr Ysgol Y Faenol

Glanhawr Ysgol Y Faenol

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau mor fuan a phosib - Wanted as soon as possible
Glanhawr Ysgol y Faenol, Bangor
Cleaner Faenol School, Bangor

I weithio fel rhan bwysig o'r tîm glanhau. Dyletswyddau i gadw ardal benodedig yn lan, ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.

12.5 awr yr wythnos yn ystod tymor yr Ysgol.

To work as an important member of the cleaning team. Duties to include keeping designated areas clean and hygienic.

12.5 hours a week during the school term

GS1 Pwynt 2 £10.59 yr awr / per hour ( £8.92 wedi ei gyfartalu- averaged)
Cyflog wythnosol / Weekly Salary - £111.50


Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein. / The Council will request a Criminal Records Bureau disclosure for the successful applicant and you will receive an email from 'noreply@employmentcheck.org.uk' to complete a DBS form online.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person / The applicant will be expected to reach the linguistic level noted as one of the essential skills in the Person Specification.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal / We welcome applications in Welsh and English and applications will be treated completely equally.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this comitment

Dyddiad Cau / Closing Date: 22/06/2023

Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i / Application forms from and to be returned to: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn / Telephone number 01286 679076

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
-
Dymunol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Profiad o weithio mewn swydd glanhau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
-
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

• Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle'r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.

.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Offer
Prif ddyletswyddau
• Glanhau, golchi, brwsio, defnyddio sugnydd llwch.

• Gwagio biniau ysbwriel ac ail gylchu .

• Dwstio a sgleinio y rhannau penodol ac hefyd dodrefn a ffitiadau.

• Glanhau toiledau a mannau cawodydd a chyflenwi papur toiled a sebon.

• Bydd gofyniad i ddefnyddio, pan yn briodol ac angenrheidiol, gyfarpar pwerddreif.

• Gall y dyletswyddau amrywio o dymor i dymor ac ar adegau pan fydd yr ysgol ar gau.

• Bydd hefyd, pan fo'r galwad, reidrwydd i chwi symud i rannau eraill o'r ysgol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Click here to enter text.