MANYLION
  • Lleoliad: Ty Magu, Carmarthen,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymorth Gofal Preswyl i Blant (Noson Effro)

Gweithiwr Cymorth Gofal Preswyl i Blant (Noson Effro)

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

30 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn i gynnwys penwythnosau y telir 8% ychwanegol ar eu cyfer.

I Gychwyn Cyn Gynted  Phosibl

Bod yn rhan o dîm o staff sefydledig gan gydweithio i greu amgylchedd diogel, cadarnhaol, gofalgar a meithringar sydd wedi'i reoli'n dda, gan hybu annibyniaeth, ymgysylltiad, twf a sgiliau cymdeithasol ac emosiynol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed a'u teuluoedd.

Gallu gweithio'n hyblyg yn unol ag anghenion y plant a'r gwasanaeth. Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn orfodol, yn ogystal â gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Bydd gofyn i chi weithio ar benwythnosau rheolaidd lle telir gwelliant o 8% ar ben eich cyflog sylfaenol.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Gemma Evans ar 07920767291.

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: