MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Cyfarwyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £53,440 - £63,900
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Pennaeth Priodoldeb i Ymarfer

Pennaeth Priodoldeb i Ymarfer

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Mae gwaith achos Priodoldeb i Ymarfer yn elfen graidd o swyddogaethau rheoleiddio CGA. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol am gyflawni pob agwedd ar waith y Cyngor yn y maes hwn yn effeithlon ac yn effeithiol.

Gyda phrofiad helaeth mewn amgylchedd disgyblaethol neu briodoldeb i ymarfer, bydd gan yr ymgeisydd lwyddiant blaenorol fel arweinydd sy’n arfer datblygu ac arwain swyddogaeth weithredol arwyddocaol.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau dadansoddi a sgiliau gwneud penderfyniadau rhagorol; llygad am fanylder a sgiliau rhyngbersonol a diplomyddiaeth rhagorol.

Mae buddion cyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).

Mae'r swydd yn barhaol ac amser llawn (37 awr yr wythnos).