MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd ESOL

Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Mae nifer o gyfleoedd cyffrous wedi codi i ymuno â’n tîm ESOL llwyddiannus a phrofedig, sy’n darparu amrywiaeth eang o gyrsiau ESOL. Mae’r tîm ESOL wedi’i leoli yn bennaf ar gampws hanesyddol Llwyn y Bryn yn ardal yr Uplands. Mae gwasanaethau ESOL pellach hefyd yn cael eu darparu gennym yng nghanol y ddinas ac mewn canolfanau cymunedol.

Mae gan Goleg Gwyr Abertawe oddeutu 700 o ddysgwyr ESOL sy’n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd gwahanol. Maent oll yn dymuno datblygu eu sgiliau Saesneg er mwyn symud ymlaen i gyrsiau lefelau uwch neu gyflogaeth.

Amser-Llawn a Parhaol
£22,581 - £44,442 per annum
Llwyn-Y-Bryn Campws
Cyfrifoldebau Allweddol:

Darparu profiadau addysgu a dysgu eithriadol i’n dysgwyr ESOL
Datblygu a defnyddio amrywiaeth o strategaethau addysgu a dysgu, gan gynnwys defnyddio TGD
Sicrhau canlyniadau llwyddiannus i'n myfyrwyr a chynorthwyo'r tîm i gyrraedd targedau ar gyfer cadw a chyrhaeddiad
Amdanoch chi:

Meddu ar radd berthnasol ac yn ddelfrydol Tystysgrif CELTA (neu gymhwyster cyfwerth â lefel 5)
Gwybodaeth a phrofiad o addysgu siaradwr Saesneg anfrodorol
Byddai profiad blaenorol a diweddar o addysgu SSIE yn fanteisiol
Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn ymrwymedig i welliant parhaus ac ansawdd a rhaid iddynt fod yn angerddol dros helpu ein dysgwyr i lwyddo. Fel cyfathrebwr clir a hyderus, bydd gennych sgiliau trefnu, arwain a datrys problemau ardderchog a byddwch yn gallu gweithio’n hyblyg, ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm.

Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig megis TAR, neu bod yn barod i weithio tuag ato (mae Coleg Gwyr Abertawe yn cynnig rhaglen TAR mewnol).

Buddion:

46 diwrnod o wyliau blynyddol / Cytundeb Cenedlaethol Hawl Gyliau Blynyddol, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £22,581 - £44,442 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.