MANYLION
- Lleoliad: Ty Penallta,
- Testun: Cymorth
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cwnselydd Mewn Ysgol
Disgrifiad swydd
SWYDD CWNSELA POBL IFANC MEWN YSGOLION: SWYDD RHAN AMSER (CYFWERTH AG AMSER LLAWN 0.7), PARHAOL
Gradd NJC 9 (pwynt graddfa 28-31)
Cyflog: £34,723 - £37,261 pro rata (yn ystod y tymor yn unig)
25.9 awr yr wythnos
Fel Cwnselydd, byddwch chi'n gweithio mewn Ysgolion Uwchradd, Ysgolion Cynradd sy'n Bwydo ac mewn lleoliadau cymunedol. Byddwch chi'n ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig o Seicolegwyr Addysg a Chwnselwyr Mewn Ysgolion a bydd gennych chi fynediad at oruchwyliaeth glinigol reolaidd, goruchwyliaeth broffesiynol, a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus.
Byddwch chi'n cyfrannu at ddatblygiad parhaus y Gwasanaeth Cwnsela yng Nghaerffili. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion (cwnsela wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein yn ystod oriau ysgol), gweithio gyda grwpiau, cynorthwyo ysgolion i adeiladu capasiti sy'n gysylltiedig â lles a monitro a gwerthuso effaith y Gwasanaeth. Bydd gennych chi ddealltwriaeth dda o agendâu Diogelu, Cynhwysiant Cymdeithasol a Lles. Byddai profiad o weithio gydag ysgolion ac o ddarparu cymorth cwnsela i blant cynradd oedran iau (blynyddoedd ysgol 4-6) yn ddymunol.
Bydd gennych chi o leiaf ddiploma broffesiynol mewn Cwnsela Lefel 5, tystiolaeth o ymarfer dan oruchwyliaeth ar ôl cymhwyso a byddwch chi wedi eich achredu/cofrestru gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)/Cyngor Seicotherapi y Deyrnas Unedig (UKCP) neu gyfwerth. Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kyla Honey, Prif Seicolegydd Addysg ar 07544 276540.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 25 Mai 2023.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ddydd Gwener 9 Mehefin 2023.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.