MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun: Busnes
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Busnes CC/2357

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Busnes

Lleoliad: Iâl

Math o Gontract: Rhan Amser (0.7 FTE, 25.9 awr yr wythnos), Parhaol

Cyflog: £28,751 - £44,442 (Pro Rata) (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Colofnau Cyflog Uwch.)

Mae gan Goleg Cambria swydd wag ar gael ar gyfer Darlithydd Busnes i gyflwyno ein cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3 BTEC mewn Busnes yn Iâl yn ogystal â’n cwrs Busnes TGAU i’n dysgwyr Cyswllt Ysgolion (14-16 oed).

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd mewn addysgu Busnes, hanes profedig o addysgu dysgwyr ar Lefel 3 neu is, meddu ar gymhwyster TAR neu Lefel 4 o leiaf mewn pwnc cysylltiedig.

Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i’n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.

Y dyddiad cychwyn ar gyfer y rol yw 1af o Medi 2023.

Gofynion Hanfodol
  • Mae’n rhaid bod gennych gymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Rhaid bod yn athro cymwysedig gyda chymwysterau naill ai TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407
  • Profiad o addysgu Lefel 2 a Lefel 3, dysgwyr BTEC a/neu Fusnes TGAU.
  • Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hunGallu cyfathrebu yn rhugl (yn ysgrifenedig ac ar lafar) drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai