MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes Dylunio a Thechnoleg a TGCh

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL RHIWABON

Rhiwabon

Wrecsam

LL14 6BT

Ffôn: 01978 822392

Ffacs: 01978 814918

e-bost: mailbox@rhiwabon-high.wrexham.sch.uk

www.ysgolrhiwabon.co.uk

Pennaeth: Mrs M Ferron-Evans B.A. (Anrhydedd Gyfun), MSc, N.P.Q.H

Athro / Athrawes Dylunio a Thechnoleg a TGCh Llawn Amser Dros Dro

I ddechrau mis Medi 2023 (contract 12 mis dros dro)

Rydym yn awyddus i benodi athro / athrawes Dylunio a Thechnoleg a TGCh brwdfrydig a chreadigol a all gyfrannu at lywio ein haddysgu o ran technoleg i gam nesaf ei ddatblygiad.

Rydym yn chwilio am unigolyn proffesiynol arloesol sy'n angerddol dros addysgu a dysgu ac sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth. Bydd disgwyl i'r unigolyn a benodir addysgu ar draws yr ystod oedran a gallu. Bydd angen cymhelliant, egni a brwdfrydedd arnoch chi. Yn gyfnewid, byddwn yn darparu:

Rhaglen gyflwyno gyda chefnogaeth

Cyfleoedd i chwarae rhan mewn siapio datblygiad yr ysgol gyfan

Gwir gymuned ddysgu gyda phwyslais cryf ar addysgu a dysgu.

Amgylchedd sy'n cydnabod ac yn datblygu eich sgiliau a'ch doniau drwy ein hyfforddiant proffesiynol rhagorol.

Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac mae disgwyl i staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys ac addas beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, crefydd neu oedran.

Os hoffech chi fod yn rhan o'n hysgol flaengar sy'n gwella'n gyflym, a chael cyfle i ddatblygu eich gyrfa addysgu, yna cysylltwch â Mrs Emma Williams, Cynorthwyydd Personol y Pennaeth drwy ffonio 01978 822 392 neu drwy e-bost: williamse45@hwbmail.net i gael pecyn ymgeisio.

ANFONWCH FFURFLENNI CAIS WEDI'U CWBLHAU YN UNIONGYRCHOL AT MRS EMMA WILLIAMS, CYNORTHWYYDD PERSONOL Y PENNAETH MEWN E-BOST NEU DRWY'R POST.

Dyddiad cau: Dydd Llun 15 Mai 2023