MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £28,751 - £44,442
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Busnes

Darlithydd Busnes

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Busnes
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Rhan Amser (0.7 FTE, 25.9 awr yr wythnos), Parhaol
Cyflog: £28,751 - £44,442 (Pro Rata) (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Colofnau Cyflog Uwch.)
Mae gan Goleg Cambria swydd wag ar gael ar gyfer Darlithydd Busnes i gyflwyno ein cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3 BTEC mewn Busnes yn Iâl yn ogystal â’n cwrs Busnes TGAU i’n dysgwyr Cyswllt Ysgolion (14-16 oed).
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd mewn addysgu Busnes, hanes profedig o addysgu dysgwyr ar Lefel 3 neu is, meddu ar gymhwyster TAR neu Lefel 4 o leiaf mewn pwnc cysylltiedig.
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i’n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.
Y dyddiad cychwyn ar gyfer y rol yw 1af o Medi 2023.
Gofynion Hanfodol
Mae’n rhaid bod gennych gymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
Rhaid bod yn athro cymwysedig gyda chymwysterau naill ai TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407
Profiad o addysgu Lefel 2 a Lefel 3, dysgwyr BTEC a/neu Fusnes TGAU.
Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hunGallu cyfathrebu yn rhugl (yn ysgrifenedig ac ar lafar) drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.