MANYLION
  • Lleoliad: Caerphilly,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £2,916.00 - £3,333.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hebryngydd Croesfannau Ysgol

Hebryngydd Croesfannau Ysgol

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Hebryngydd Croesfannau Ysgol
Disgrifiad swydd
Ydych chi'n chwilio am waith gyda phlant?

Ydych chi'n egnïol, yn ofalgar, yn brydlon, yn ddibynadwy ac yn ymroddedig i gadw plant yn ddiogel?

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am oruchwylio disgyblion a cherddwyr eraill i sicrhau eu bod nhw’n croesi'n ddiogel mewn lleoliad penodol wrth fynd i'r ysgol ac wrth adael, gan sicrhau eu hiechyd a diogelwch ar bob adeg.

Mae'r swydd ar gyfer Hebryngwr Croesfan Ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener yn Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili a fydd yn cynnwys dwy sifft y dydd, un ar ddechrau'r diwrnod ysgol ac un ar y diwedd. Mae'r safle croesi wedi'i leoli yn uniongyrchol y tu allan i'r ysgol ar y groesfan sebra yn Pontygwindy Road.

Byddwch chi'n cydymffurfio â'n polisïau ac yn sicrhau bod pawb yn cadw at reoliadau, o fewn y Canllawiau a’r Llawlyfr Hebryngwyr Croesfannau Ysgol.

Rhaid i chi fod yn gyfathrebwr effeithiol a bydd disgwyl i chi gysylltu â rheolwyr, rhieni, disgyblion a'r ysgol yn llwyddiannus.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kerry Watkins ar 01443 866538 neu ebost: watkikg@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.