MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Ymgysylltu Dwyieithrwydd

Swyddog Ymgysylltu Dwyieithrwydd

Y Coleg Merthyr Tudful
Mae'r Coleg Merthyr Tudful am benodi Swyddog Ygysylltu Dwyieithrwydd i greu a datblygu cyfleoedd i ddysgwyr gaffael, datblygu a chynnal eu sgiliau Cymraeg yn ystod eu cyfnod yn y coleg.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd lwyddiannus ymuno â thîm y Gymraeg er mwyn sefydlu un o Swyddogion Ymgysylltu Dwyieithog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Coleg Merthyr Tudful ac yn frwd dros ddatblygu a hyrwyddo cyfleoedd pellach i fyfyrwyr a staff i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd.

Deiliad y swydd fydd gweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y prif bwynt cyswllt. Bydd hyn hefyd yn cynnwys monitro'r holl ddarpariaeth sy'n gysylltiedig â grant.

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo wrth gynllunio cwricwlwm cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o fewn meysydd blaenoriaeth ac yn cydweithio'n agos gyda rheolwyr y cwricwlwm.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi Tîm y Gymraeg i sicrhau bod y targedau y cytunwyd arnynt o fewn y Strategaeth Gymraeg a dwyieithog i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n cwblhau elfennau o'u cwrs yn y Gymraeg yn cael eu bodloni.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda cholegau ledled De Ddwyrain Cymru er mwyn rhannu arferion ac adnoddau da.

Mae'r swydd am 35 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Dyddiad cau: 23/06/2023