MANYLION
- Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 06 Awst, 2021 11:59 y.b
This job application date has now expired.
Diben y Swydd:
O dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi, bydd y Rheolwr Cyfathrebu yn rheoli tîm bach o staff, gan arwain a datblygu strategaeth a gweithgareddau Cyfathrebu CGA.
Cyfrifoldebau:
Bydd y Rheolwr Cyfathrebu yn:
Strategaeth
• Datblygu a gweithredu Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu CGA ar draws y sefydliad i sicrhau bod y Cyngor i’w weld yn amlwg a bod ganddo frand cadarn ymhlith ei gofrestreion, ei randdeiliaid a’r cyhoedd;
• Monitro a gwerthuso Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu CGA, gan roi adroddiadau rheolaidd i uwch-swyddogion ar lwyddiant y strategaeth a’r argymhellion ar gyfer gwella;
• Gweithio gyda rheolwyr gweithredol i gynllunio gweithgarwch cyfathrebu a’u cynorthwyo nhw i gyfleu agweddau allweddol ar waith CGA yn effeithiol i gofrestreion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys datblygu strategaethau ac ymgyrchoedd targedig, manwl ar gyfer prosiectau a mentrau penodol;
• Hyrwyddo gwaith a gwasanaethau CGA yn effeithiol i gofrestreion a rhanddeiliaid, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau.
Gweithrediadau
• Cymryd cyfrifoldeb am y gweithgor Cyfathrebu mewnol;
• Cydlynu a chreu cynnwys gwefan CGA, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau ac offer, a gweithio gyda thîm I.S. a rheolwyr gweithredol y Cyngor i gyflawni hyn;
• Cydlynu presenoldeb CGA ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddatblygu a gosod cynnwys rheolaidd ac amserol ar Twitter, Facebook a chymwysiadau eraill;
• Datblygu cyfathrebiadau effeithiol ac amserol i gofrestreion a rhanddeiliaid, trwy e-gylchlythyron rheolaidd a gohebiaeth, cyfryngau ac offer eraill;
• Cydlynu digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb CGA, gan gynnwys darlithoedd, sesiynau briffio polisi, lansiadau a gweminarau;
• Cydweithio â’r wasg, y cyfryngau a drafftio datganiadau i’r wasg mewn cytundeb ag uwch-swyddogion;
• Gweithio gyda rheolwyr gweithredol i ddatblygu pecynnau hyfforddiant ar-lein pwrpasol i gofrestreion a rhanddeiliaid;
• Gweithio gyda'r Rheolwr Swyddfa a'r Rheolwr Systemau Gwybodaeth i ddatblygu a chynnal systemau cyfathrebu mewnol ymhellach;
• Datblygu a chynnal cyfres gyfredol o lenyddiaeth gorfforaethol;
• Diweddaru a gweithio i godi ymwybyddiaeth o ganllaw arddull CGA, gan roi cyngor i dimau eraill ar ei ddefnyddio.
Dyletswyddau eraill
• Paratoi ac, os bydd angen, cyflwyno papurau i’r Cyngor a’i Bwyllgorau, o dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi;
• Sefydlu perthynas waith agos ar lefel gyfathrebu gyda swyddogion mewn Cynghorau Addysgu Cyffredinol eraill, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill;
• Sicrhau cydymffurfiad ag arfer da a chodau ymddygiad perthnasol yn gysylltiedig â chyfathrebu a chydymffurfiad â deddfwriaeth, gan gynnwys y Gymraeg, Cydraddoldeb a’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data; ac
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd y Cyfarwyddwr neu’r Prif Weithredwr, yn gymesur â’r swydd a’r radd.
JOB REQUIREMENTS
Gweler y ddogfennaeth atodedig ar gyfer manyleb person.