MANYLION
- Lleoliad: Deeside,
- Testun: Addysg Bellach
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Proffil Swydd
Job description
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Asesydd - Peirianneg Drydanol
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Y Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £29,021 - £32,706
Ydych chi’n Beiriannydd Trydanol profiadol yn eich maes gydag enw da am ansawdd a rhagoriaeth?
Daw ein myfyrwyr a’n gweithwyr o gefndiroedd cymdeithasol amrywiol. Rydym yn cyflogi pobl wych o gefndiroedd amrywiol gan fod hyn yn gwneud ein tîm yn gryfach a dyna pam ein bod ni angen rhagor o bobl fel chi o’r diwydiant peirianneg!
Dewch i ymuno â’n tîm fel ymarferydd Peirianneg Drydanol dysgu yn y gwaith, ac ymuno â gweithwyr proffesiynol eraill y diwydiant sydd wedi penderfynu rhannu eu gwybodaeth gyda’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
Heb weithio mewn lleoliad addysg o’r blaen? Peidiwch â phoeni! Doedd llawer o’n haelodau o staff hir dymor heb chwaith. Gallwn ddarparu’r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch ac rydym wedi ymrwymo i’ch datblygiad.
Yn y swydd hon byddwch yn cael y cyfle i ddarparu ystod o wasanaethau i gefnogi asesu yn y gweithle ar NVQ neu raglenni tebyg gan asesu meysydd busnes eraill hefyd. Byddwch yn helpu i gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol ac yn darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu a all wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ifanc.
Byddwch yn asesu portffolios ymgeiswyr ac yn cyflwyno’r rhai sydd wedi’u cwblhau i’w dilysu’n fewnol. Byddwch yn monitro cynnydd y myfyriwr tuag at ennill eu cymhwyster, sy’n golygu y byddwch yn cael gweithio ar y cyd gyda nhw trwy gydol eu profiad yn y coleg, gan roi adborth adeiladol iddynt a’u helpu i lunio portffolio o dystiolaeth.
Mae hon yn swydd sy'n rhoi boddhad mawr i'r person iawn a fydd yn mwynhau gweld myfyriwr yn symud ymlaen ar ei daith addysg o'r dechrau i'r diwedd.
Ar ben y cyfle gwych hwn, gallwn gynnig buddion anhygoel fel gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, hyblygrwydd, gwyliau gwych a phensiwn gwych.
Gofynion Hanfodol
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar y safle
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

- Cymhwyster asesydd neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny
- Gyda chymhwyster perthnasol proffesiynol ar Lefel 3 o leiaf
- Yn hunangymhelliad, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun
- Mae’n hanfodol bod gennych chi drwydded yrru ddilys a’ch cludiant eich hun
- Gallu defnyddio cyfrifiaduron