MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Llesiant Safle                CC/2329

Cymhorthydd Llesiant Safle CC/2329

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth …

Teitl y Swydd: Cymhorthydd Llesiant Safle

Lleoliad: Bydd y swydd hon wedi’i lleoli yn Llysfasi yn bennaf yn ogystal ag ymweliadau wythnosol â'r Bers ac Iâl

Math o Gontract: Cyfnod Penodol (31 Hydref 2023) Llawn Amser (35 awr)

Graddfa Gyflog: £21,490 i £21,899

Mae gennym swydd newydd gyffrous ar gael ar hyn o bryd yng Ngholeg Cambria. Bydd Cymorthyddion Llesiant Safle yn cynorthwyo gyda gweithgareddau sy’n gwella iechyd meddwl ein dysgwyr. Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn rhoi ein dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Felly, prif swydd Cymhorthydd Llesiant Safle fydd helpu a chynorthwyo ein dysgwyr fel eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned y coleg. Os ydych chi’n unigolyn cyfeillgar a brwdfrydig, gyda dealltwriaeth o ddulliau rhoi gwybod am drawma ac ymddygiad cadarnhaol yna gall hon fod y swydd berffaith i chi. Bydd angen i chi allu hwyluso sgwrs am lesiant ac iechyd meddwl a chyfeirio myfyrwyr yn effeithiol at wasanaethau eraill pan fo angen. Yn ogystal â hyn bydd angen i chi gydnabod ac adrodd am unrhyw bryderon diogelu posibl.

Gofynion Hanfodol

· Cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch

· Gallu dangos profiad blaenorol o hyfforddi a chynorthwyo unigolion.

· Profiad diweddar o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion Iechyd Meddwl a/neu Lesiant.

· Gallu dangos ymrwymiad at bwysigrwydd Diogelu ac ymwybyddiaeth o hynny

· Gallu dangos gwybodaeth ynghylch iechyd meddwl a llesiant a’r effaith ar ddysgwyr.

· Gallu ysgogi dysgwyr i gyflawni eu targedau a chynnal cymhelliant a phositifrwydd.

· Gallu siarad â staff a myfyrwyr yn briodol am safonau a disgwyliadau a chynnal sgyrsiau anodd.

· Gallu arwain staff a dysgwyr trwy ddulliau ymddygiad cadarnhaol.

· Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu defnyddio’r Rhyngrwyd a’r Fewnrwyd yn ogystal â bod yn barod a gallu dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni a systemau TG newydd.

· Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm er mwyn cyflawni amcanion unigol a thîm.

· Hyrwyddo safonau uchel yn broffesiynol, moesol a phersonol yn holl agweddau’r sefydliad, gan arddel Egwyddorion Nolan.

· Ymrwymiad y gellir ei ddangos at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai