MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Athro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mai, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Heulfan - Y Canol

Trem Heulwen

Gwersyllt

Wrecsam

LL11 4HS

Rhif ffôn: 01978722050

Pennaeth - Mrs Julia Thomas Haigh

www.ysgolheulfan.co.uk

I ddechrau ym mis Medi 2023 (MPR a lwfans anghenion dysgu ychwanegol).

Mae Ysgol Heulfan yn Ysgol Gynradd gwbl gynhwysol i ddisgyblion 3-11 oed. Mae gennym ni ethos gref o gydweithio i fod y gorau y gallwn fod a rhoi twf personol a lles wrth galon popeth rydym yn ei wneud.

Mae'r Canol yn ddarpariaeth arbenigol iawn gydag adnoddau o fewn Ysgol Heulfan ac mae'n darparu ar gyfer disgyblion oed cynradd sydd ag anawsterau dysgu sylweddol, anawsterau dysgu difrifol a lluosog ac anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistiaeth.

Mae'r Corff Llywodraethu'n dymuno recriwtio athro/athrawes arbennig a phrofiadol i weithio yn y Canol ac ymuno â'n tîm creadigol i ysbrydoli plant. Mae Ysgol Heulfan yn ymroi i gynnig addysg gynhwysol ac mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ymarfer arloesol ar gyfer addysgu a dysgu ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Os hoffech ymweld â'r ysgol neu gael sgwrs anffurfiol cyn gwneud cais, cysylltwch â Kathy Jones (Pennaeth Cynorthwyol) ar 01978722050.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Dychwelwch ffurflenni cais wedi eu llenwi yn uniongyrchol i'r Pennaeth drwy e-bost: mailbox@heulfan-pri.wrexham.sch.uk, gyda dim mwy na dwy dudalen A4 yn amlinellu eich sgiliau a'ch addasrwydd ar gyfer y swydd.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.