MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Addysg - Noddfa

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G06 £24,054 - £25,409 pro rata

yn ystod y tymor yn unig - 39 wythnos y flwyddyn

37 awr yr wythnos

Mae'r Gwasanaeth Cefnogi Addysg yn awyddus i benodi Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Addysg llawn cymhelliant i gyfrannu at ddatblygiad strategol y ganolfan asesu ac ymyrraeth. Mae gan Noddfa ddwy ddarpariaeth ar wahân, un yn ganolfan Asesu ac Ymyrraeth ar gyfer 0-25 oed yn cynnig cefnogaeth aml-asiantiaeth ac allgymorth ar draws Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam a'r llall yn darparu 3 ystafell ddosbarth pwrpasol ar gyfer disgyblion ag Awtistiaeth ac Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cefnogaeth wedi'i theilwra i deuluoedd (rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc) i hybu rhieni i fagu eu plant yn bositif a'u helpu i gefnogi eu plant i gael addysg yn unol â deddfwriaeth, canllawiau a pholisi adrannol a chenedlaethol.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyda theuluoedd i hyrwyddo perthnasoedd cryf a chadarnhaol, ffyrdd iach o fyw, trefn ddyddiol dda, annibyniaeth a dulliau diogel a phositif o fagu plant.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arddangos empathi ac amynedd gan y bydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY, yn benodol anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Fe fydden nhw'n frwdfrydig ynglŷn â bod yn rhan o dîm meithringar ac yn angerddol am weithio gyda theuluoedd ac ysgolion er mwyn gwella deilliannau.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon.

I holi mwy am y swydd, cysylltwch â John Hodgson - 07808787761

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.