MANYLION
  • Lleoliad: Cwmcarn,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Arweinydd Tîm Addysg Awyr Agored

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Arweinydd Tîm Addysg Awyr Agored
Disgrifiad swydd
Mae'r Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden yn awyddus i recriwtio arweinydd llawn cymhelliant, angerddol, dynamig a medrus i'r swydd barhaol hon gydag Anturiaethau Caerffili.

Rydyn ni'n edrych am rywun â phrofiad o weithio yn y maes Addysg Awyr Agored ac o ddelio â phartneriaid allweddol.

Byddwch chi'n rheoli ac yn gweithredu strategaethau i wella ystod ac ansawdd cyfleoedd drwy gynyddu cyfranogiad a gwella perfformiad mewn gweithgareddau awyr agored anturus.

Byddwch chi'n gweithio o fewn tîm datblygu Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden ac yn cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid ac adrannau mewnol i sicrhau darparu'r gwasanaeth gorau ar gyfer y cwsmeriaid. Er enghraifft, Addysg, Addysg Heblaw yn yr Ysgol, Datblygu Chwaraeon, Gwasanaethau Ieuenctid.

Y cymhwyster hanfodol sydd ei angen yw cymhwyster Lefel 6 (Gradd) perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jared Lougher ar 07528736335 neu ebost: loughj@caerphilly.gov.uk.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.