MANYLION
  • Lleoliad: Llwynhendy Intergrated Childrens Centre, Llanelli,
  • Testun: Datblygiad y Plentyn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Gofal Plant Dechrau’n Deg

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Swydd Cyfnod Penodol hyd at 31/03/2024

32.50 awr yr wythnos

Rydym yn ceisio recriwtio gweithiwr gofal plant ar gyfer Tîm Blynyddoedd Cynnar Dechrau'n Deg ar gyfer plant sydd angen gweithiwr 1:1.

Lleolir Meithrinfa Dechrau'n Deg Sêr Ni yng Nghanolfan Blant Integredig Llwynhendy ac yn Ysgol Bynea. Mae'r Feithrinfa'n darparu gofal sesiynol o safon i blant Dechrau'n Deg yn ardal Dechrau'n Deg Llwynhendy a Bynea. Nod Sêr Ni yw gwella deilliannau dysgu yn y dyfodol drwy weithgareddau chwarae yn seiliedig ar ansawdd mewn partneriaeth â rhieni.

Rydym yn ceisio recriwtio unigolyn proffesiynol brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio gyda'r Blynyddoedd Cynnar. Bydd angen i'r ymgeiswyr feddu ar gymhwyster Gofal Plant Lefel 3 a mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur sy'n canolbwyntio ar y plentyn.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Lowri Phillips-Evans âr 01554 742252.

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: