MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Testun: Cymorth
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Arweinydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol - Swyddog Gwella Ysgolion
Cyngor Wrecsam
Disgrifiad
Gradd Cyflog: Soulbury 4 - 7 a phwyntiau APS
Mae Awdurdod Lleol Wrecsam yn awyddus i benodi ymarferydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol profiadol, ymroddedig ac angerddol i ymuno â'r Gwasanaeth Cynhwysiant. Dyma gyfle newydd i unigolyn sydd yn dymuno cefnogi plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn potensial a'u dyheadau. Fe fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfrifoldeb arweiniol dros hyrwyddo cymorth ymddygiad cadarnhaol ar draws yr Awdurdod Lleol. Mae'r rôl yn cynnwys asesiad uniongyrchol, gweithio gydag ysgolion a thimau o staff a datblygu protocolau a gweithdrefnau ar gyfer y gwasanaeth cyfan. Bydd y rôl yn gweithredu ar lefel strategol, gefnogol a gweithredol fel yr amlinellwyd yn y ddogfen Cadw Disgyblion yn Ddiogel.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:
• Gymhwyster ôl-raddedig priodol mewn maes perthnasol.
• Profiad proffesiynol yn y maes hwn.
• Wybodaeth am y system addysg.
• Wybodaeth am brosesau a gweithdrefnau diogelu.
• Wybodaeth am ymarfer gwybodus am drawma a'i weithrediad effeithiol.
• Brofiad o weithio ar lefel strategol gan ddatblygu polisiau a gweithdrefnau.
• Brofiad o weithio mewn dull cydweithredol gydag asiantaethau/ysgolion/teuluoedd a phlant/pobl ifanc.
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
Dyma rôl unigryw a chyfle cyffrous i rywun sydd yn angerddol dros ddatblygu a gweithredu dull strwythuredig tuag at ymddygiad cadarnhaol.
Rydym wedi ymrwymo at ddiogelu ac hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r un ymrwymiad.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Lisa Duncalf, Pennaeth y Gwasanaeth, drwy'r ebost Lisa.Duncalf@wrexham.gov.uk.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.