MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

GOFALWR(AIG) YSGOL

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc

Llai

Wrecsam Ll12 0TR

Ffon: 01978 859100

Pennaeth - Mrs Rebecca Billington

GOFALWR YSGOL

G04 £21,189 - £21,575 pro rata

£10.98 - £11.18 yr awr

16 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn a delir ar gyfradd gofalwr.

Gall fod yn bosib cynyddu oriau gofalu yn y dyfodol.

Oriau gwaith safonol yn ystod y tymor yw 7:15am - 8:15am a 3:45pm - 6pm.

Mae'r Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc, Llai yn dymuno penodi gofalwr parhaol brwdfrydig a chydwybodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn llawn cymhelliant a threfnus a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal safle'r ysgol, i sicrhau amgylchedd croesawgar a diogel i gymuned gyfan yr ysgol.

Byddwch yn gyfrifol am gadw'r ysgol yn ddiogel, gallu gwneud mân waith atgyweirio, cynnal gwiriadau diogelwch fel bo'r angen a sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cynnal.

Fel y prif ddeiliad allwedd, byddwch hefyd yn gyfrifol am agor a chloi'r ysgol bob dydd.

Byddwch yn sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n effeithlon o'r adeilad a thir yr ysgol, gan gynnwys ailgylchu, ac yn sicrhau nad oes chwyn, sbwriel na llanast ar diroedd yr ysgol. Disgwylir i chi fynd i'r ysgol fel y bo'n briodol y tu allan i oriau gwaith arferol os digwydd i'r larwm ganu neu os oes argyfwng arall.

Mae'n rhaid i wyliau blynyddol gael ei gymryd yn ystod gwyliau'r ysgol. Gellir cytuno ar oriau gwaith yn ystod gwyliau'r ysgol o flaen llaw gyda'r Pennaeth, fodd bynnag, rhaid gweithio ar ddydd Gwener olaf bob gwyliau.

Mae profiad a chymwysterau'n ddymunol, fodd bynnag darperir hyfforddiant llawn.

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth am ragor o wybodaeth neu drefnu i ymweld â'r ysgol.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

Headteacher@park-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 12 canol dydd - dydd Gwener 21 Ebrill 2023